Alloway Burns Club Title
www.allowayburnsclub.org.uk

Mae Dyn Yn Ddyn Er Hyn Oll

(A Man's A Man For A' That)

A oes, am dlodi gonest bwn,
Yn gwyro'i ben, a hyn oll?
Y caethwas llwfr, awn hfeibio hwn,
A meiddiwn fyw er hyn oll!
Er hyn oll, a hyn oll,
Ein lludded cudd, a hyn oll,
Nid ydyw urdd ond argraff aur,
Y dyn yw'r pwnc er hyn oll.

Pa waeth os cinio prin, yn flin,
A siaced Iwyd, a hyn oll;
Caed ffol ei sidan, cnaf ei win,
Mae dyn yn ddyn er hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Eu heurwe ffug, a hyn oll;
Y gonest ddyn, er pa mor dlawd,
Yw brenin pawb er hyn oll.

Chwi welwch draw'r ysgogyn balch,
Yn syth ei drem, a hyn oll;
Er cryma rhai wrth air y gwalch,
Nid yw ond coeg, er hyn oll:
Er hyn holl, a hyn oll,
Ysnoden, aur, a hyn oll,
Y dyn ag annibynol fryd,
A syll a chwardd ar hyn oll.

Geill brenin wneuthur marchog llawn,
Ardalydd, Dug, a hyn oll;
Ond gonest ddyn, â chalon iawn,
'Sy fwy nas gall, er hyn oll!
Er hyn oll, a hyn oll,
Eu hurddas gwych, a hyn oll
Y synwyr cryf, a'r meddwl teg,
Sy raddau uwch na hyn oll.

Rho'wn lef y'nghyd, am ddod y pryd -
A dod a wna, er hyn oll –
Bydd synwyr clyd, tros wyneb byd,
Yn dwyn y parch, a hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Yn dod y mae, er hyn oll,
Pan dros y byd, bydd dyn a dyn,
Yn frawdol un, er hyn oll.