Mari
(Highland Mary)
Chwi fryniau glwys a choed o gylch
Hoff gastell glân Montgom'ri,
Yn hardd bo'ch gwawr, yn wyrdd bo'ch dail,
Mewn glendid yn rhagori;
Byth yno 'nghynta' gweler haf,
Ac yno'n ola'n gwenu,
Can's yno'r ymadewais i
A'm hanwyl, anwyl Fari.
Mor hardd oedd clôg y fedwen las,
A blodau'r drain mor wynion,
Pan dan eu cudd y gwasgwn i
F' angyles at fy nghalon!
Yr oriau'n bêr aent dros y bardd,
A'r un ag oedd e'n hoffi;
Can's hoff i mi fel bywyd oedd
Fy anwyl, anwyl Fari.
Trwy lawer llw, a'n breichiau 'nghlo,
Bu dyner ein gwahaniad;
Gan addunedu mynych gwrdd,
Torasom ein cofleidiad;
Ond O! rhew angau deifio wnaeth
Fy rhosyn hardd - fy lili;
Gwyrdd yw'r dywarchen, oer yw'r clai,
Sy'n cloi fy anwyl Fari.
O! gwelw yw'r gwefusau pêr,
Mor swynol gawn gusanu;
A chwedi caead arnynt byth
Mae'r Uygaid oedd mor llon-gu:
Mae'n llwch a lludw'r galon lân
Mor dyner fu'n fy ngharu!
Ond yn fy nghof a'm serch caiff fyw
Fy anwyl, anwyl Fari.