Llygad Y Dydd
(To A Mountain Daisy)
Bachigyn wylaidd freilw mwyn-gu,
Drwg yw dy gwrdd pan wyf yn aru;
O dan y briddell y rhaid baeddu
Dy baladr main;
Dy arbed sydd uwch law fy ngallu,
Flodeuyn cain!
Och! nid dy gymmydog dedwydd,
Dy fwyn gydymaith, yr ehedydd,
A'th blyga gyda gwlith boreuddydd,
A'i ddwyfron flydd,
Pan esgyn i groesawu'n ufydd
Wawr y dydd.
Yn oer y chwythai gwynt gorllewin,
Pan darddaist yn y gauaf gerwin;
Ond codaist yn dy wylltedd iesin
I oddef hin;
A phrin ymddangos cyn i'r ddryghin
Fod yn flin.
O fewn ein gerddi y cawn flodau,
Ac i'w cysgodi goed a muriau:
I ti nid oes ond antur gaerau
O bridd neu faen,
Tra yr addurni ein mynyddau,
A'th ddail ar daen.
Ac yn dy fantell brin ymdrwsi
Dy wenfron dyner a ledaeni,
Dy wylaidd egwan ben ddyrchefi
Mewn symledd glwys;
Ond gan yr aradr y suddi
O dan y gwys.
Mai hyn yw tynged didwyll feinir,
Mewn gwledig fwth a dyner fegir,
Gan symledd cariad a fradychir,
A hudol wedd,
Ac yna'n ddifwynedig gleddir
Yn y bedd.
Mai hyn yw tynged syml brydydd,
Ar eigion bywyd yn anhylwydd!
I droion amser yn anghelfydd,
Heb ddysg na dawn;
Ac i'r dygyfor cwymp yn ebrwydd,
Cyn gwel ei nawn!
Mai hyn y teilwng a ddyoddefa,
Mewn gwae ac eisiau yr ymdrecha,
Tra dichell balchder a'i herlyna
I ofyd dwys;
Heb obaith ond y Nef, ymsudda
O dan ei bwys!
A thi, sy'n cwyno uwch y breilw,
Dy dynged tithau fydd y cyfryw;
Hen aradr Adfall fydd dy ddystryw
Yn eiddil wan;
A dy falurio yn y rhelyw
Fydd dy ran!